Mae CTR Learning yn cynnig hyfforddiant arwain a rheoli a mentora i unigolion a sefydliadau er mwyn iddynt allu canfod eu nodau cyffredinol ac er mwyn eu helpu i gyflawni’r nodau hynny, drwy gyrsiau arwain a rheoli ardystiedig.
Mae lefel yr hyfforddiant rydym yn ei gynnig yn sicrhau bod y llwybr dysgu rydych yn ei ddewis, beth bynnag y bo, yn effeithiol ac yn fuddiol i chi fel unigolyn neu fel tîm. Rydym wedi cydweithio â nifer o unigolion a sefydliadau gyda golwg ar ddatblygu eu sgiliau a’u rhinweddau fel arweinwyr sydd, yn ei dro, wedi cryfhau a gwella effeithiolrwydd gweithredol y sefydliad perthnasol.
Mae ein cyrsiau arwain a rheoli wedi cael eu hachredu gan y Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM), sy’n gorff dyfarnu pwysig ym maes arwain a rheoli.
Mae ILM yn frwdfrydig iawn ynghylch grym arweinyddiaeth a rheolaeth dda gyda golwg ar weddnewid pobl a sefydliadau.
Pam dewis hyfforddiant Arwain ILM?
– Mae dros 750,000 o reolwyr wedi ymgymryd â chymhwyster ILM dros y 10 mlynedd diwethaf.
– Mae cyflogwyr yn dweud bod 93% o reolwyr yn perfformio’n well yn eu gwaith ar ôl ennill cymhwyster ILM.