Rydym wedi bod yn cynnig cyrsiau hyfforddiant er 2003 yn y DU a thramor, a gydol yr amser hwn rydym wedi bod yn ennill mwy a mwy o brofiad gwerthfawr o gyflwyno cyrsiau hyfforddiant. Rydym yn deall bod gan bob dysgwr ei hoff ffordd o dderbyn hyfforddiant a dilyn cwrs a dyma pam rydym yn cynnig nifer o wahanol ddulliau cyflwyno.
Dulliau Cyflwyno:
– Mewn ystafell ddosbarth
– E-ddysgu
– Tîm hyfforddiant symudol
– Dysgu o bell
Os mai dysgwr unigol ydych chi, edrychwch ar y wybodaeth am y cwrs i weld pa ddull cyflwyno sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pob cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, neu, fel arall, cymerwch air gydag aelod o’r tîm.
O ran sefydliadau, efallai y byddwn yn gallu cynnig dull cyflwyno sy’n seiliedig ar eich gofynion penodol, felly cysylltwch â ni i siarad gydag aelod o’r tîm.