Gwybodaeth

Mae CTR Learning wedi bod yn cefnogi dysgwyr ac yn datblygu rhaglenni hyfforddiant proffesiynol er 2003 ac fel cwmni rydym yn parhau i anelu at fod yn ddarparwr hyfforddiant sgiliau arwain blaenllaw ym maes arwain, rheoli, datblygu, diogelwch ac e-ddysgu. Rydym yn cynnig cyngor, gwasanaeth rheoli gyrfa a chyrsiau hyfforddi i unigolion sy’n awyddus i wella eu cyflogadwyedd a’u dewisiadau gyrfa yn ogystal â sefydliadau sydd am ddatblygu eu staff.

Mae arwain a rheoli yn elfen hollbwysig o ddatblygiad proffesiynol, ni waeth be fo’r diwydiant. Y lluoedd arfog sydd ar flaen y gad o ran arwain a rheoli a dyna pam mae ein cwmni ni yn cynnwys rheolwyr a hyfforddwyr o gefndiroedd milwrol amrywiol yn ogystal ag o’r sector sifil. Mae gan y gweithwyr hyn hefyd brofiad masnachol gwerthfawr, o reoli busnes i arwain a mentora.

Er mwyn gallu mesur ein safle fel darparwr hyfforddiant blaenllaw, rydym wedi sefydlu partneriaethau gyda chyrff dyfarnu pennaf y DU. Mae hyn yn rhoi achrediad heb ei ail i ni sydd yn ei dro yn rhoi tawelwch meddwl i’n myfyrwyr y byddant yn ennill ardystiad o’r lefel uchaf.

Os ydych yn chwilio am yr hyfforddiant mwyaf cynhwysfawr ar y farchnad, a chynnwys sy’n benodol i’ch nodau ‘ach datblygiad personol, dyma’r lle i ddod.

Get in touch

Call us on 0333 370 4999
Email info@ctrlearning.co.uk

Download the CTR Stategic Learning brochure