Hyfforddiant Corfforaethol

Rydym yn deall bod eich staff yn allweddol i lwyddiant eich sefydliad, boed y rheini’n staff mewn swyddi rheolwyr uwch neu’n aelod o staff sy’n gymwys ar gyfer ei ddatblygu mewn maes a fyddai’n hybu galluogi busnes. Rydym wedi darparu hyfforddiant o wahanol lefelau i sefydliadau, gan eu galluogi i ddatblygu eu diwylliant mewnol a gwella eu heffeithiolrwydd gweithredol; yn hytrach na dim ond cynnig cyrsiau, rydym yn gallu darganfod eich nodau a’ch amcanion penodol ac yna byddwn yn seilio’r lefel berthnasol o hyfforddiant ar y canlyniadau hyn.

Rydym yn gallu cyflwyno hyfforddiant corfforaethol mewn amrywiol ffyrdd e.e. e-ddysgu rhyngweithiol neu ddysgu o bell, sesiynau mewn canolfan a hefyd, drwy ein tîm hyfforddiant corfforaethol symudol, rydym yn gallu cynnal y cyrsiau a ddymunir mewn lleoliad sy’n addas ar eich cyfer chi. Y tri maes pennaf o hyfforddiant corfforaethol rydym yn eu cynnig yw hyfforddiant cysylltiedig ag Arwain, Cymorth Cyntaf a Diogelwch gan ein bod wedi canfod mai dyma’r meysydd sy’n rhoi’r budd mwyaf i amrywiol sefydliadau.