Mae pob cwrs hyfforddiant diogelwch wedi’i lunio gan arbenigwyr yn y maes ac mae ystod y cyrsiau sydd ar gael yn golygu bod y mwyafrif o’r sectorau neu’r meysydd sy’n berthnasol i’r diwydiant iechyd a diogelwch yn cael sylw. Mae ymrwymiad o’r fath yn cyfoethogi’r gweithiwr a’r sefydliad fel corff, gan leddfu ar risgiau yn y gweithle. P’un ai a ydych yn sefydliad neu’n gontractwr, mae’r llyfrgell o wybodaeth iechyd a diogelwch rydym yn ei darparu yn arf werthfawr i sicrhau eich effeithiolrwydd gweithredol.