Cyfarwyddyd Gyrfa

Ydych chi’n chwilio am yrfa newydd neu eisiau gwella eich llwybr gyrfa presennol? Ydych chi newydd ddechrau yn eich gyrfa neu’n meddwl am newid cyfeiriad? Beth bynnag yw eich sefyllfa ar hyn o bryd, mae CTR Strategic Learning ar gael i roi cefnogaeth ac arweiniad diduedd i chi.

Rydym wedi rhoi cyfarwyddyd gyrfa, gwasanaeth cwnsela a chefnogaeth chwilio am swydd i nifer fawr o gwsmeriaid naill ai fel unigolion neu fel rhan o sefydliad. Mae hyn yn cynnwys gyrfaoedd ar bob lefel, o uwch weithredwyr i weithwyr sydd am wella eu cyfleoedd gyrfa.

Mae ein gwasanaeth cyfarwyddyd gyrfa yn darparu asesiad diduedd o’ch sgiliau a’ch profiad cyfredol, eich nodau a’ch amcanion a’r ffordd orau i chi eu gwireddu. Y cam cyntaf yw trafodaeth anffurfiol er mwyn i ni allu casglu gymaint o wybodaeth berthnasol ag y bo modd amdanoch sy’n golygu ein bod yn gallu creu Cynllun Cyfarwyddyd Gyrfa. Mae’r profiad sydd gan ein harbenigwyr yn amrywiol ac yn cwmpasu nifer o wahanol ddiwydiannau. Felly byddwn yn gallu eich helpu hyd y llwybr gorau ymlaen i sicrhau eich bod yn cyrraedd eich nodau. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys asesu adrannau mewnol sefydliadau gyda golwg ar wella cynhyrchiant yn y gwaith.

Cysylltwch â’r tîm i gael rhagor o wybodaeth.

Get in touch

Call us on 0333 370 4999
Email info@ctrlearning.co.uk

Download the CTR Stategic Learning brochure